Mawr iawn yw gwres y tān,
Fy mhechod o bob rhyw
A ddifa oll o'i fla'n
Rasusau pur fy Nuw;
Ond eto trech yw gallu'r nef
Na'i fflamau cynddeiriocaf ef.
Mae enw Calfari,
Fu gynt yn w'radwydd mawr,
Yn ngolwg f'enaid cu
Yn fwy na'r nef yn awr:
O! ddedwydd fryn, sancteiddiaf le,
Dderbyniodd ddwyfol waed y ne'!
'R wy'n caru'r hyfryd awr,
Mi gara'r hyfryd le,
Mi garaf bren y groes
'Gorweddodd arno 'fe:
Fy enaid, dyma'm Duw a'm Pen,
Ac oll a feddaf, ar y pren!
Ffarwel deganau byd,
Mae'ch tegwch hyfryd iawn
Oll yn diflanu 'nghyd
Ar Galfari brydnawn:
Mae da, a dyn,
er maint eu grym,
Yn ngŵydd y groes yn myn'd yn ddim.
[Mesur: 666688] |
Very great is the heat of the fire,
Of my sin of every kind
And destroy all before him shall
The graces of my God;
But still superior is the power of heaven
To its most wrathful flames.
The name of Calvary,
Which was formerly greatly shameful,
In the view of my dear soul
Greater than heaven now:
O happy hill, most holy place!
Where heaven accepted divine blood!
I am loving the delightful hour,
I love the delightful place,
I love the wood of the cross
That lay upon him:
My soul, here is my God and my Head,
And all I possess, on the tree!
Farewell trinkets of the world,
Your very delightful fairness is
All disappearing together
On Calvary in a afternoon:
Stock, and man are,
despite the extent of their force,
In the face of the cross going to nothing.
tr. 2016 Richard B Gillion |
|